Consortiwm Hyfforddiant Cymru Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Hafan Amdanon ni Dod yn Swyddog Prawf Datblygiad Staff Cysylltu a ni
Amdanon ni > Rhagarweiniad Saesneg/English
Rhagarweiniad
Ein gwaith
Ein hardaloedd
Ein staff
Dogfennau swyddogol

Fel rhan o NOMS nodau’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Gymru a Lloegr
Gwarchod y cyhoedd
Lleihau ail-droseddu
Cosbi troseddwyr yn briodol yn y gymuned
Sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol o effeithiau troseddu ar ddioddefwyr a'r cyhoedd
Ailsefydlu troseddwyr






I gael rhagor o fanylion ynghylch y pedair ardal prawf, darllenwch
Ein hardaloedd.
Gwerthfawrogi amrywiaeth
Mae Consortiwm Hyfforddiant Cymru wedi ymrwymo i drin pob person yn deg, yn agored a chyda pharch. Rydym yn cydnabod y gall camwahaniaethu ddigwydd ar sawl lefel ac rydym wedi ymrwymo i roi diwedd arno drwy fabwysiadu polisïau o weithredu cadarnhaol pan fo hynny'n bosibl.

Amdanon ni
Mae Consortiwm Hyfforddiant Cymru yn un o naw Consortiwm o’r fath a geir ar draws Gymru a Lloegr ac mae’n gweithio er mwyn darparu ystod o hyfforddiant.

Cymdeithas yw Consortiwm Hyfforddiant Cymru rhwng y pedair ardal prawf ledled Cymru.

Ynghyd â’r 42 ardal prawf yng Nghymru a Lloegr a’r Gyfarwyddiaeth Prawf Genedlaethol, ni yw’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Gymru a Lloegr.

NPS logo
Am ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Gymru a Lloegr ymwelwch â:
www.probation.homeoffice.gov.uk

Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol

Mae’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (GCRhT) yn cyfuno, mewn un system, gwaith a gyflawnir gyda throseddwyr sydd yn y carchar a chyda’r rheini sydd dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf yn y gymuned, naill ai ar ddedfrydau cymunedol neu ar ôl eu rhyddhau o’r ddalfa. Lleihau aildroseddu ac amddiffyn y cyhoedd sydd wrth wraidd ei nod.

Mae rôl Rheolwr Troseddwyr yn ganolog i weithrediad GCRhT.  Mae GCRhT yn cyflwyno arferion newydd sy'n gosod rheolwr troseddwr unigol (swyddog prawf fel arfer) wrth wraidd cydlynu pob agwedd o'r ddedfryd, o'r euogfarn i ddiwedd y ddedfryd, gan sicrhau parhad a chysondeb. Mae’r dull newydd hwn, a’r systemau Technoleg Gwybodaeth sy'n ei gefnogi, yn sicrhau hefyd nad oes diffyg cyfathrebu ac yr adeiladir ar ddatblygiadau a wneir gan unigolyn ac ni chaniateir iddynt gael eu colli, wrth i droseddwr barhau â’i ddedfryd.  Mae rheolwyr troseddwyr hefyd yn gyfrifol am orfodi amodau ac anghenion a osodir ar droseddwyr ac am gymryd camau i ddychwelyd pobl i’r llys neu i’r carchar os nad ydynt yn cydymffurfio neu os yw’n ymddangos eu bod yn datblygu i fod yn risg annerbyniol i’r cyhoedd.

Mae’r system newydd yn rhoi’r gwasanaeth prawf a rheoli troseddwyr wrth galon y gwasanaethau ar gyfer troseddwyr.  Mae rheolwyr troseddwyr nawr yn rheoli pob achos ac yn goruchwylio troseddwyr trwy gydol eu dedfryd.

Mae’r Gwasanaeth Prawf yn darparu nifer o’r elfennau penodol o’r ddedfryd megis cyfnod o waith di-dâl yn y gymuned, neu’r agweddau hynny o’r ddedfryd a gynlluniwyd i newid ymddygiad megis darparu rhaglen ymddygiad troseddol neu waith i leihau dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.

Yn ystod y rhaglen, bydd swyddogion prawf dan hyfforddiant yn dysgu beth yw’r ffordd orau i ddelio â throseddwyr risg canolig a’r rheini sy’n peri risg o niwed difrifol, er mwyn iddynt, fel Swyddogion Prawf sydd newydd gymhwyso, fod yn gymwys i weithio gyda throseddwyr yr asesir eu bod yn peri risg uchel o niwed.

Home Office logo Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn rhan o Swyddfa Gartref y Llywodraeth. Yr Ysgrifennydd Cartref, Y Gwir Anrhydeddus David Blunkett AS, yw pennaeth y swyddfa honno.

I gael rhagor o fanylion ynghylch gwaith y Swyddfa Gartref, ymwelwch â
www.homeoffice.gov.uk

Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr yn goruchwylio gwaith Consortiwm Hyfforddiant Cymru.

Aelodau’r bwrdd:
Carol Moore - Cadeirydd
Mr Richard Penn
Clifton Robinson
Mr Jim McLlwee
Ms Caroline Morgan
Ms Jane Coates
Mr Ian Lankshear
Mr Paul Egan - Ysgrifennydd
Mr Mark Potter - Trysorydd

Manylion cyswllt:

Consortiwm Hyfforddiant Cymru
4-7 The Broadway
Pontypridd
CF37 1BA

Ffôn: 01443 494333
Ffacs: 01443 494285

E-bost:
walesprobation.consortium@south-wales.probation.gsi.gov.uk


tudalen nesaf: What we do

brig y dudalen