Consortiwm Hyfforddiant Cymru Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Hafan Amdanon ni Dod yn Swyddog Prawf Datblygiad Staff Cysylltu a ni
Amdanon ni > Ein gwaith Saesneg/English
Rhagarweiniad
Ein gwaith
Ein hardaloedd
Ein staff
Dogfennau swyddogol

‘Cyflawni trwy Bobl '

NPS logoMae strategaeth rheoli pobl y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ar gyfer 2002-2007 yn nodi sut mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn denu ac yn cadw’r bobl orau, gan sicrhau bod y gweithlu yn derbyn digon o gymhelliant ac arweiniad a’u bod yn hynod broffesiynol.
Dadlwythwch pdf (3.6MB)

(
I ddarllen dogfennau ar fformat pdf, bydd angen Adobe Acrobat reader arnoch. Mae hwn ar gael am ddim ar wefan Adobe.)
Gweithio i’r Gwasanaeth Prawf

Ymwelwch â thudalen ar wefan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol sy’n sôn yn arbennig am Weithio i’r Gwasanaeth Prawf.




Gwerthoedd y Gwasanaeth Prawf
Mae staff prawf wedi ymrwymo i’r gwerthoedd craidd canlynol:
Trin pobl yn deg, yn agored a chyda pharch
Safiad digyfaddawd yn erbyn niwed a achosir gan drosedd
Cred cryf yng ngallu pobl i newid
Pwysigrwydd bod yn bersonol gyfrifol am ymddygiad
Y rheidrwydd i ddysgu o brofiad
Ein gwaith
Mae Consortiwm Hyfforddiant Cymru yn un o naw Consortiwm o’r fath a geir ar draws Cymru a Lloegr sy’n gweithio i:
  • Recriwtio a dethol swyddogion prawf dan hyfforddiant

  • Rheoli hyfforddiant y swyddogion prawf dan hyfforddiant

  • Cefnogi hyfforddiant mewnol i staff prawf ar bob gradd, sy’n cynnwys NVQ.

  • Rheoli hyfforddiant y staff rhanbarthol ar gyfer Rhaglenni Achrededig

Mae’r Diploma mewn Astudiaethau Prawf yn cyfuno gradd prifysgol a NVQ lefel 4 mewn Astudiaethau Cyfiawnder Cymunedol.

Rydyn ni’n darparu hyn mewn partneriaeth a Phrifysgol Cymru Casnewydd a’r pedair ardal prawf.

Mae rhaglenni achrededig yn gyrsiau y mae’n rhaid i droseddwyr eu dilyn fel rhan o’u dedfryd yn y gymuned. Gallant atal pobl rhag troseddu rhagor. Maent wedi’u hachredu gan y Swyddfa Gartref gan ddilyn cwricwlwm craidd cenedlaethol cadarn.

I gael amlinelliad llawn a’r rhesymau dros y ffyrdd presennol o weithio gyda throseddwyr, ymwelwch â ‘Beth sy’n Gweithio i Leihau Troseddu’. Mae hyn yn cynnwys mwy o fanylion am raglenni ymddygiad troseddol.

Dadlwythwch gopi diweddaraf y cylchlythyr ‘Beth sy’n Gweithio’ gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (pdf 116K).
(I ddarllen dogfennau ar fformat pdf, bydd angen Adobe Acrobat reader arnoch. Mae hwn ar gael am ddim ar wefan Adobe.)

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Skills for Justice: www.skillsforjustice.com


Ymwelwch â gwefan y System Cyfiawnder Troseddol
www.cjsonline.gov.uk
‘Y Porth i’r System Cyfiawnder Troseddol’ a thudalen y safle ar weithio ym maes prawf

Cysylltiadau perthnasol eraill:

Yr Adran Addysg a Sgiliau yw porth y llywodraeth ar gyfer gwybodaeth a chyngor ynghylch unrhyw beth sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau.
www.dfes-uk.co.uk

City and Guilds yw’r prif ddarparwr ym maes cymwysterau galwedigaethol yn y Deyrnas Unedig. Mae eu cymwysterau yn asesu sgiliau sydd o werth ymarferol yn y gweithle. Y nhw sy’n pennu’r safonau ar gyfer NVQ.
www.city-and-guilds.co.uk


tudalen nesaf: Ein hardaloedd

brig y dudalen