Consortiwm Hyfforddiant Cymru Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Hafan Amdanon ni Dod yn Swyddog Prawf Datblygiad Staff Cysylltu a ni
Dod yn Swyddog Prawf > Ochr y troseddwyr Saesneg/English
Rhagarweiniad
Ynghylch y rhaglen hyfforddi
Beth mae gweithiwr dan hyfforddiant yn ei wneud
Sut i ymgeisio
Gwaith Swyddog Prawf
Ochr y troseddwyr
Sefydliadau proffesiynol ac undebau llafur

Mae gweithio gyda throseddwyr mynych yn flaenoriaeth

Er nad yw dros hanner y bobl a gaiff eu dyfarnu’n euog o droseddu, cyn belled ag y gwyddom ni, yn cyflawni troseddau eraill, mae nifer yn troseddu eto.

Mae lefelau euogfarnau yn awgrymu bod pobl yn fwy tebygol o droseddu eto po fwyaf o droseddau y maent wedi’u cyflawni yn y gorffennol.

Mae cyfran fawr o droseddau un ai yn digwydd mewn grwpiau neu’n cael eu cyflawni gan grwpiau o bobl sy'n gweithredu gyda'i gilydd.
Bydd yr heddlu yn arestio dros 1.3 miliwn bob blwyddyn a bydd y rhan fwyaf o’r bobl yn pledio’n euog.

O’r holl bobl a gaiff eu dyfarnu’n euog o droseddu ym Mhrydain:

- mae 11% yn derbyn dedfryd gymunedol
- mae 9% yn cael eu rhyddhau
- mae 71% yn derbyn dirwy
- mae 8% yn derbyn dedfryd o garchar
Pam fod pobl yn dal i gyflawni troseddau?

Dengys gwaith ymchwil mai’r prif achosion yw:

- sgiliau datrys problemau gwan
- sgiliau gwael o ran llunio penderfyniadau
- rheolaeth bersonol wan
- sgiliau cymdeithasol gwael
Ochr y troseddwyr
Dyma straeon personol y troseddwyr eu hunain.

Mae stori pawb yn wahanol – sut wnaeth pobl ddechrau troseddu a rhoi’r gorau iddi.

Ond mae’r straeon hyn yn dangos sut gall gwaith y staff prawf, ynghyd â staff asiantaethau partner, gefnogi troseddwyr i wneud newidiadau positif a'u tywys oddi ar drywydd troseddu.

Peter, 40

‘Ges i Orchymyn Ailsefydlu Cymunedol am ddwy flynedd ar yr amod fy mod i’n mynd ar raglen. Ar ddechrau’r gorchymyn ro’n i’n yfed hyd at 4 litr o seidr cryf bob dydd ac yn smocio canabis weithiau. Ro’n i wedi gwahanu oddi wrth fy ngwraig a ’mhlant.

‘Roedd pethau’n ddrwg – do’n i ddim yn cael gweld fy mhlant ac aeth pethau o ddrwg i waeth pan wnes i droseddu. Daeth fy swyddog prawf i ’ngweld i gan fy rhoi mewn cysylltiad ag asiantaeth alcohol arbenigol. Ro’n i’n yfed am y sesiynau cyntaf ond dwi heb yfed alcohol ers 64 diwrnod. Dwi heb gael canabis ers mis Mawrth.

‘Dwi’n mynychu apwyntiadau gyda fy nghwnselydd alcohol a fy swyddog prawf. Dwi hefyd yn gwneud cynlluniau ar gyfer fy nyfodol. Mae gen i gyswllt rheolaidd gyda fy mhlant a dwi’n dysgu sgiliau newydd ar gwrs cyfrifiadur. Dwi hefyd yn cwrdd â phobl newydd.

Mae’r gorchymyn prawf gan y llys wedi fy helpu i ganolbwyntio ac wedi agor drysau i mi.’


tudalen nesaf: Sefydliadau proffesiynol ac undebau llafur

brig y dudalen