Consortiwm Hyfforddiant Cymru Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Hafan Amdanon ni Dod yn Swyddog Prawf Datblygiad Staff Cysylltu a ni
Dod yn Swyddog Prawf > Beth mae gweithiwr dan hyfforddiant yn ei wneud Saesneg/English
Rhagarweiniad
Ynghylch y rhaglen hyfforddi
Beth mae gweithiwr dan hyfforddiant yn ei wneud
Sut i ymgeisio
Gwaith Swyddog Prawf
Ochr y troseddwyr
Sefydliadau proffesiynol ac undebau llafur

Mae cyflogau Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant yn amrywio rhwng £17,191 - £18,406 (yn agored i’w adolygu).

Yr wythnos waith arferol yw 37 awr.

Mae gan hyfforddeion hawl i gael 20 diwrnod o wyliau y flwyddyn ynghyd ag 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus a 2 ddiwrnod statudol ychwanegol.
Gweithio i’r Gwasanaeth Prawf

NPS logo
Ymwelwch â thudalen ar wefan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol sy’n sôn yn arbennig am Weithio i’r Gwasanaeth Prawf






Troseddu ar y Teledu
Beth sydd ar y teledu a’r radio wythnos ’ma?
Eich canllaw wythnosol i raglenni ar droseddu.
Beth mae Swyddog Prawf dan hyfforddiant yn ei wneud

Fel person sy'n hyfforddi, prif amcan y Swyddog Prawf dan Hyfforddiant yw ymgymryd â'r gwaith academaidd a'r profiad mewn ymarfer prawf sy'n angenrheidiol er mwyn ennill, ymarfer a dangos y wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd a’r hyfedreddau sydd eu hangen ar gyfer y radd a’r NVQ sy’n rhoi’r DipPS. Anghenion hyfforddi’r Swyddog Prawf dan Hyfforddiant fydd yn pennu faint o waith a wneir a natur y gwaith hwnnw.

Yn ystod eu hyfforddiant, bydd Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant yn ymgymryd â gwaith ar ran yr Ardal Prawf sy’n eu cyflogi a byddant felly yn darparu gwasanaeth i Lysoedd, sefydliadau cosbi, defnyddwyr Ardal Prawf unigol (neu bobl y mae’r Ardal Prawf yn gyfrifol amdanynt) a chymunedau lleol. Bydd angen i Swyddog Prawf dan Hyfforddiant weithio yn unol â’r Rheolau Prawf, y Safonau Cenedlaethol, polisïau’r Bwrdd Prawf a phob deddfiad a pholisi perthnasol arall.

Yn benodol, yn eu holl waith, bydd Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant yn sicrhau bod y gwasanaeth a gyflwynir yn adlewyrchu polisïau Cyfle Cyfartal a Gwrth-gamwahaniaethol yr Ardal Prawf ac yn hyrwyddo, yn enwedig drwy gyfrannu at asesu a rheoli risg, cyfrifoldeb cyffredinol yr Ardal i sicrhau diogelwch defnyddwyr y Gwasanaeth, y staff a'r cyhoedd.

Yn benodol, bydd Swyddog Prawf Dan Hyfforddiant yn:

  • Bresennol ym mhob digwyddiad dysgu academaidd, fel a drefnir gan y Brifysgol, y Consortiwm neu’r Ardal Prawf

  • Cwblhau’r aseiniadau academaidd gofynnol

  • Arsylwi ac yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a phrofiadau dysgu eraill fel a drefnir gan y Consortiwm neu’r Ardal Prawf

  • Ymgymryd â gwaith o’r fath ar ran yr Ardal Prawf fel a all fod yn ofynnol gan yr Asesydd Datblygu Ymarfer (ADY), a all gynnwys:
    1. Rhoi cyngor a gwybodaeth am ddiffynyddion i’r Llysoedd, yn enwedig drwy baratoi Adroddiadau Cyn-Dedfrydu
    2. Cyfrannu at oruchwylio troseddwyr sydd ar ddedfrydau cymunedol neu sydd wedi’u rhyddhau o sefydliad cosbi a gwneud hynny’n effeithiol
    3. Cynorthwyo carcharorion cyn ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau i ddilyn bywydau mewn ffordd sy’n parchu’r gyfraith, gan gynnwys cyfrannu at reoli dedfryd.
    4. Helpu cymunedau i atal trosedd a lleihau ei effaith ar ddioddefwyr
    5. Cysylltu ag unigolion ac asiantaethau ar ran yr Ardal Prawf
    6. Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill er mwyn helpu i leihau’r posibilrwydd o droseddu

I gael amlinelliad llawn a’r rhesymau dros y ffyrdd presennol o weithio gyda throseddwyr, ymwelwch â 'Beth sy’n Gweithio i Leihau Troseddu'. Mae hyn yn cynnwys mwy o fanylion am raglenni ymddygiad troseddol.


tudalen nesaf: Sut i ymgeisio

brig y dudalen