Consortiwm Hyfforddiant Cymru Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Hafan Amdanon ni Dod yn Swyddog Prawf Datblygiad Staff Cysylltu a ni
Dod yn Swyddog Prawf > Ynghylch y rhaglen hyfforddi Saesneg/English
Rhagarweiniad
Ynghylch y rhaglen hyfforddi
Beth mae gweithiwr dan hyfforddiant yn ei wneud
Sut i ymgeisio
Gwaith Swyddog Prawf
Ochr y troseddwyr
Sefydliadau proffesiynol ac undebau llafur

Darperir y Diploma mewn Astudiaethau Prawf yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Casnewydd, gyda chefnogaeth Prifysgol Bangor.




I gael mwy o wybodaeth am NVQ, ymwelwch â:
www.dfes.gov.uk/nvq/what.shtml
Ynghylch y rhaglen hyfforddi Swyddogion Prawf

Y DIPLOMA MEWN ASTUDIAETHAU PRAWF

Y Diploma mewn Astudiaethau Prawf yw’r cymhwyster proffesiynol sy’n rhoi statws Swyddog Prawf i hyfforddeion llwyddiannus a gyflogir gan Fwrdd Prawf.  Mae’r Diploma yn gymhwyster galwedigaethol ac academaidd integredig sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i’r hyfforddeion gael Gradd Addysg Uwch sy’n cynnwys NVQ mewn Cyfiawnder Cymunedol, gydag unedau perthnasol o’r Safonau Galwedigaethol Cyfiawnder Cymunedol.

Mae’r Rhaglen yng Nghymru wedi’i chymeradwyo gan Wasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, sydd wedi llunio contract gyda Phrifysgol Cymru Casnewydd i gyflwyno BS(Anrh.) mewn Cyfiawnder Cymunedol (Prawf).  Dilysir y radd gan Brifysgol Cymru ac fe’i cyflwynir yn rhannol gan staff o Brifysgol Cymru, Bangor. 

Bydd y dulliau addysgu yn cynnwys dysgu o bell, gweithdai a darlithoedd preswyl i Gymru gyfan yng Ngregynog, ger y Drenewydd yn y Canolbarth  (18 diwrnod i gyd dros y cyfnod hyfforddi), a dod i Brifysgol Cymru Casnewydd, Campws Allt yr Ynn a Phrifysgol Cymru Bangor.

Ceir dau gyfnod i’r Rhaglen Radd, a rhennir y naill a’r llall yn ddwy ran.

CYFNOD UN

Mae’r rhaglen yn cychwyn ar 20 Medi gyda chwrs preswyl 3 diwrnod yn dilyn rhwng y 24 – 26 Medi yng Ngregynog, Y Drenewydd, Powys.

A. Ymarfer Sylfaen

Dyma bum deg y cant o Gyfnod Un y Rhaglen Radd a golyga weithio mewn Swyddfa Brawf dan arweiniad a hyfforddiant Rheolwr/wraig Llinell ac Asesydd Datblygu Ymarfer, rhywun a fydd yn Swyddog Prawf profiadol. Bydd yr Asesydd hefyd yn gyfrifol am eich datblygiad NVQ yng Nghyfnod Dau.  Swyddogaeth yr Asesydd fydd cysylltu â’ch Rheolwr/wraig ynghylch y meysydd gwaith priodol y dylech eu perfformio er mwyn ategu’r dysgu academaidd a wneir ac er mwyn casglu tystiolaeth o’ch gallu i gynhyrchu gwaith yn y cam hwn.

B.  Gwaith Academaidd

Cyflwynir hwn ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd neu Brifysgol Cymru, Bangor, a bydd yn cynnwys gwaith dan y penawdau canlynol yn y cwricwlwm craidd:

  • Cyflwyniad i’r System Cyfiawnder Troseddol, Rheoli Troseddwyr a Sefydliadau Cyfreithiol
  • Gwerthoedd, Moeseg ac Amrywiaeth
  • Cyflwyniad i Drosedd a Throseddeg
  • Seicoleg - Gwybyddol/Ymddygiadol/Datblygiadol a Lleihau Aildroseddu
  • Cyd-destun Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol Troseddu
  • Y Broses Ddysgu a Datblygiad Proffesiynol
  • Dulliau a Sgiliau Sylfaenol, gan gynnwys asesiad a sgiliau cyfathrebu

Bydd yr amserlen yn ymrwymo’r hyfforddeion i ymarfer sylfaen yn eu swyddfa, un diwrnod o astudio preifat/cefnogaeth dysgu a hyd at un diwrnod yr wythnos yn y Brifysgol. Bydd un cyfnod arall o weithdai a darlithoedd Preswyl yn ystod Cyfnod Un.

Dim ond ar ôl cwblhau Cyfnod Un yn llwyddiannus y bydd yr hyfforddeion yn symud ymlaen i Gyfnod Dau.

CYFNOD DAU

Bydd Cyfnod Dau yn dechrau gydag Addysgu Preswyl yng Ngregynog, a chynhelir tri chwrs preswyl arall yn ystod y Cyfnod hwn.

A. Datblygu Ymarfer

Bydd y Swyddog Prawf dan Hyfforddiant yn ymgymryd â gwaith Swyddog Prawf, a hynny dan oruchwyliaeth Rheolwr/wraig Llinell ac Asesydd Datblygu Ymarfer er mwyn casglu tystiolaeth o gymhwysedd i fodloni gofynion Uned Cyfiawnder Cymunedol NVQ Lefel 4.

Caiff yr holl ymgeiswyr llwyddiannus, ar ôl cael eu penodi, eu cofrestru gyda’r City & Guilds sef y Corff Dyfarnu cyfredol ar gyfer Dyfarniadau Cyfiawnder Cymunedol NVQ Lefel 4 i’r rhaglen Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant yng Nghymru.

Yng Nghyfnod Dau y Rhaglen Radd a than gyfarwyddyd ac asesiad Asesydd Datblygu Ymarfer, bydd yr Hyfforddeion yn llunio portffolio o dystiolaeth o’u cymhwysedd i berfformio yn unol â meini prawf penodol oddi mewn i ddeuddeg uned Dyfarniad Cyfiawnder Cymunedol Lefel 4, sef dyfarniadau gorfodol i Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant.

Teitlau Unedau NVQ yn Arwain at y Dyfarniad Lefel 4 i Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant

Prosesu gwybodaeth am ymddygiad troseddol unigolion.

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharchu Amrywiaeth.

Asesu ymddygiad troseddol unigolion a pharatoi adroddiadau.

Cyfrannu at ansawdd gweithio mewn tîm.

Cynllunio, goruchwylio, gorfodi ac adolygu dedfrydau yn y gymuned.

Meithrin a chynnal perthynas waith effeithiol gyda’r staff mewn asiantaethau eraill.

Asesu a rheoli risg uchel o niwed

Cynllunio, monitro ac adolygu pecynnau integredig a chefnogaeth i fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol unigolion. 

Galluogi unigolion i ddeall eu hanawsterau a delio â nhw.

Cynrychioli’r asiantaeth mewn llysoedd a gwrandawiadau ffurfiol.

Cyfrannu at atal a rheoli ymddygiad treisiol ac ymosodol.

Atgyfnerthu amcanion ymddygiad cadarnhaol mewn cydberthynas ag unigolion.

Bydd Datblygu Ymarfer fel arfer yn golygu hanner cant y cant o Gyfnod Dau.  Asesir cynnydd a gwelliant academaidd drwy ofynion gwybodaeth a dealltwriaeth yr NVQ. 

B.   Gwaith Academaidd

  • Cyd-destun Cymdeithasol Anghenion Troseddu a Throseddegol
  • Deall a defnyddio theori ac ymchwil sy'n gysylltiedig â mathau o drosedd a chategorïau troseddwyr
  • Trosedd a Throseddeg
  • Y Fframwaith Polisi a Chyfreithiol
  • Datblygu Ymarfer Effeithiol
  • Mynd i’r Afael â Throseddau a’u Heffeithiau ar Ddioddefwyr
  • Asesu Ymddygiad Troseddol a Risg o Niwed
  • Mynd i'r afael ag Ymddygiad Troseddol a Rheoli Risg o Niwed
  • Rheoli Troseddwyr a Gweithredu Dedfrydau
  • Gweithio mewn cyd-destun Rhyngasiantaethol a Threfniadaethol a Chymunedol.

Mae’n bosib y gallwch hawlio credyd am ddysgu blaenorol (APL) a dysgu tystysgrifedig blaenorol (APCL).  Caiff ymgeiswyr llwyddiannus wybod am gredyd o’r fath sydd ar gael pan gânt eu penodi i'r cynllun hyfforddeion.

Bydd y Sefydliad Addysg Uwch yn rhan o'r broses recriwtio a dethol er mwyn sicrhau bod gan ymgeisydd y potensial naill ai i astudio ar lefel gradd gyntaf neu bod ganddynt 2 Lefel A, sy'n gyfwerth â hynny.

Dim ond ar ôl cwblhau’r NVQ a’r Radd yn llwyddiannus fel proses integredig y dyfernir y Diploma mewn Astudiaethau Prawf.

Tra bydd Consortiwm Hyfforddiant Cymru yn ceisio amharu cyn lleied â phosibl ar fywydau personol yr hyfforddeion, rhaid i’r hyfforddeion yng Nghymru ddisgwyl y bydd astudio ar gyfer y radd hon yn golygu peth gwaith academaidd preswyl, teithio rheolaidd ac ymrwymiad personol i reoli eu dysgu eu hunain.


tudalen nesaf: Beth mae gweithiwr dan hyfforddiant yn ei wneud

brig y dudalen