  |
 |
  |
Gwerthoedd y Gwasanaeth Prawf
Mae staff prawf wedi ymrwymo ir gwerthoedd craidd canlynol: |
 |
 |
 |
Trin pobl yn deg, yn agored a chyda pharch |
 |
 |
 |
 |
Safiad digyfaddawd yn erbyn niwed a achosir gan drosedd |
 |
 |
 |
 |
Cred cryf yng ngallu pobl i newid |
 |
 |
 |
 |
Pwysigrwydd bod yn bersonol gyfrifol am ymddygiad |
 |
 |
 |
 |
Y rheidrwydd i ddysgu o brofiad |
 |
 |
 |
 |
 |
|
Gwaith Swyddog Prawf |
|
Mae’r adran hon yn nodi prif dasgau a chyfrifoldebau Swyddogion Prawf.
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Fel rhan o’r System Cyfiawnder Troseddol, mae’r Gwasanaeth Prawf yn gweithio i amddiffyn y cyhoedd, hyrwyddo diogelwch cymunedol ac atal trosedd.
Er bod Ardaloedd Prawf lleol wedi’u trefnu’n wahanol i adlewyrchu gwahaniaethau’r cymunedau a wasanaethir ganddynt, yr un cyfrifoldebau sydd ganddynt ledled y wlad. Er mwyn sicrhau ansawdd a chysondeb ledled y wlad, mae’r Swyddfa Gartref yn gosod Safonau Cenedlaethol ar gyfer y rhan fwyaf o dasgau prawf.
Crëwyd y Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol (NOMS) yn 2004 ar ôl adolygu'r gwasanaethau cywiro dan arweiniad Patrick Carter. Yn yr adolygiad, gwelwyd bylchau allweddol yng ngwaith y carchardai a'r gwasanaeth prawf. Nodwyd hefyd newidiadau yn y drefn ddedfrydu a oedd wedi ychwanegu at faich gwaith y carchardai a'r gwasanaeth prawf.
SWYDDOGION PRAWF
Dyma rai o’r tasgau y bydd Swyddogion Prawf yn ymgymryd â nhw:
- Cynnal asesiadau er mwyn cynghori Llysoedd ac eraill, yn enwedig ynghylch y risg a berir gan droseddwyr unigol. Mae Swyddogion Prawf yn paratoi adroddiadau ysgrifenedig i’r Llys o’r enw Adroddiadau Cyn-Dedfrydu. Bydd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol berthnasol am y troseddwr, dadansoddiad o’r troseddau, asesiad o risg ac, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn cynnwys cynnig ynghylch y ffordd y dylid dedfrydu’r troseddwr. Mae rhai swyddogion yn gweithio mewn Llys gan amlaf ac yn cynrychioli’r Gwasanaeth Prawf fel Swyddogion Cyswllt.
- Rheoli a gorfodi’r Gorchmynion Cymunedol a wneir gan y Llysoedd. Mae gan Swyddogion Prawf gyfrifoldeb i sicrhau bod gorchmynion y Llys yn cael eu cyflawni. Yn ystod Gorchymyn Ailsefydlu Cymunedol, bydd y swyddog yn gweithio i newid ymddygiad y troseddwr mewn ffyrdd a fydd yn gwneud troseddu yn llai tebygol yn y dyfodol. Gall hyn olygu, er enghraifft, gymryd rhan mewn rhaglenni grwp (a gynhelir gan amlaf gan Swyddogion Prawf sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig) sydd, yn ôl gwaith ymchwil, yn gallu dylanwadu ar ymddygiad fel hyn. Efallai bydd swyddogion hefyd yn ymwneud â rheoli a gorfodi Gorchmynion Cosb Gymunedol pan fydd troseddwyr yn ymgymryd â gwaith cyflogedig fel cosb er budd y gymuned.
- Gweithio gyda charcharorion yn ystod ac ar ôl dedfryd er mwyn cynorthwyo i’w hadsefydlu a rhoi gofynion eu trwydded ar waith. Mae Swyddogion Prawf yn cynorthwyo i reoli dedfrydau a llunio trefniadau ar gyfer rhyddhau fel bod carcharorion yn setlo yn ôl i’r gymuned mewn ffordd sy’n lleihau’r posibilrwydd iddynt aildroseddu eto. Mae rhai Swyddogion Prawf yn gweithio mewn carchardai.
- Gweithio yn uniongyrchol gydag eraill i newid ymddygiad troseddwyr a lleihau’r risg o niwed. Mae swyddogion yn gweithio gyda throseddwyr i newid eu hagweddau a’u hymddygiad ac i geisio rhoi sylw i’r anghenion sydd wrth wraidd eu troseddu. Er bod hyn yn cael ei wneud yn uniongyrchol gan y Swyddog Prawf ambell waith, mae Ardaloedd Prawf yn annog eu staff i fanteisio’n llawn ar asiantaethau eraill, y bydd yr Ardal mewn partneriaeth â rhai ohonynt ac efallai y byddant mewn sefyllfa well i ymgymryd â’r gwaith angenrheidiol. Lleihau niwed i’r cyhoedd yw cyfrifoldeb pennaf Swyddogion Prawf bob amser. Rhaid sicrhau cyswllt agos ag asiantaethau eraill er mwyn bodloni'r cyfrifoldeb hwn a helpu asiantaethau i gydweithio mewn modd effeithiol ac effeithlon.
- Gweithio yn uniongyrchol gydag eraill, i leihau effaith troseddau ar eu dioddefwyr. Er bod llawer o’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni drwy gyswllt ag asiantaethau eraill, gall Swyddogion Prawf fod mewn cysylltiad â dioddefwyr troseddau difrifol er mwyn eu cynghori ynghylch materion fel dyddiad rhyddhau disgwyliedig y troseddwr a gweithredu ar eu pryderon.
- Mae rhai Swyddogion Prawf yn rheoli hosteli, lle bydd troseddwyr yn aros ar fechnïaeth fel gofyniad yn eu Gorchymyn Ailsefydlu Cymunedol, neu dan drwydded.
 |
 |
 |
 |
 |
 |
Mwy o wybodaeth am waith Swyddog Prawf
Dadlwythwch pdf (16k) : Dadlwythwch Word doc (36k)
I ddarllen dogfennau ar fformat pdf, bydd angen Adobe Acrobat reader arnoch. Mae hwn ar gael am ddim ar wefan Adobe.
I ddarllen dogfennau ar fformat Word doc, bydd angen copi o Microsoft Word arnoch. |
 |
 |
Beth sy’n atal pobl rhag aildroseddu?
- gall mynychu rhaglen ymddygiad troseddol effeithiol sydd wedii hanelu at y troseddwyr priodol ac wedii chynnal mewn carchar neu yn y gymuned atal troseddu pellach
- mae cael swydd yn ffordd effeithiol iawn o helpu troseddwyr a arferai bod yn ddi-waith i fyw bywydau heb droseddu
- mae gan ganran uchel o droseddwyr mynych broblem ddifrifol o ran camddefnyddio cyffuriau ac felly maent yn cyflawni mwy o droseddau. Felly derbyn triniaeth yn aml ywr cam cyntaf i atal troseddu pellach
- gall gwyliadwriaeth ddwys gan yr heddlu ynghyd â lefelau uwch o oruchwyliaeth gan staff prawf weithio gydar troseddwyr mynych caletaf.
Mae cryn dipyn o waith staff prawf yn cynnwys cysylltu ag asiantaethau eraill:
Am fwy o wybodaeth ynghylch ein partneriaid Cyfiawnder Troseddol, ymwelwch â:
www.cjsonline.org/working/
|