Consortiwm Hyfforddiant Cymru Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Hafan Amdanon ni Dod yn Swyddog Prawf Datblygiad Staff Cysylltu a ni
Datblygiad Staff > Rhaglenni Achrededig Saesneg/English
Rhagarweiniad
Rhaglenni Achrededig

Datblygiad staff: Rhaglenni Achrededig
Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol wedi ymrwymo i ostwng lefel ailddedfrydu ar gyfer 5% o’r bobl sydd dan ei oruchwyliaeth. Mae darparu ‘Rhaglenni Achrededig’ ar sail tystiolaeth yn allweddol i gyrraedd y nod hwn.

Rhaglenni Ymddygiad Troseddol Cyffredinol

Anelir y Rhaglenni Ymddygiad Troseddol Cyffredinol at droseddwyr sydd wedi cyflawni ystod o droseddau yn amrywio o fod yn ganolig o ran difrifoldeb i ddifrifol iawn. Fel yr awgryma’r enw, nid yw’r rhaglenni yn canolbwyntio ar fathau arbennig o droseddau ond yn hytrach yn canolbwyntio ar ddatblygu ystod o sgiliau meddwl a sgiliau cymdeithasol megis datrys problemau, cymryd persbectif cymdeithasol, hunanreolaeth a rhesymu moesegol. Mae hyn yn annog ymddygiad pro-gymdeithasol yn hytrach na gwrth-gymdeithasol ac yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar y troseddwyr i fyw bywyd heb droseddu.

Ar hyn o bryd mae tair rhaglen o’r fath yng Nghymru:
  • Rhesymu ac Ailsefydlu - rhaglen gwaith grwp - 38 sesiwn

  • Gwella Sgiliau Meddwl - rhaglen gwaith grwp - 20 sesiwn

  • Rhaglen Un i Un Priestly - rhaglen i unigolion - 20 sesiwn

Ceir rhaglen hefyd ar gyfer merched yn unig, sy’n cael ei threialu ar hyn o bryd.

Rhaglenni arbenigol

Yn ogystal â’r rhaglenni hyn, ceir nifer o raglenni sydd wedi’u hanelu at bobl sydd wedi cyflawni mathau arbennig o droseddau.

  • Troseddwyr Yfed a Gyrru - rhaglen gwaith grwp - 16 sesiwn.

    Mae hon yn rhaglen sydd wedi’i hanelu at y sawl sydd wedi cyflawni troseddau yfed a gyrru.

  • Rhaglen Gwaith Grwp Cymunedol i Droseddwyr Rhyw

    Mae’r rhaglen hon yn ffurfio rhan o drefn oruchwylio ddwys yn y gymuned. Y nod yw gostwng lefel ail-droseddu ymysg troseddwyr rhyw, trwy ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl, sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau.

    Profwyd bod datblygu’r sgiliau hyn yn gostwng lefel ail-droseddu, gan ganolbwyntio ar y cyswllt rhwng meddyliau, teimladau ac ymddygiad.

    Nod y rhaglen yw newid y ffordd y mae unigolion yn ymddwyn trwy eu hannog i feddwl mewn gwahanol ffyrdd.

  • Rhaglen Atal Troseddwyr rhag Camddefnyddio Sylweddau

    Mae hon yn rhaglen newydd 25 sesiwn sy’n anelu at fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol y sawl sy’n troseddu o ganlyniad i ddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Mae’r rhaglen yn dal i gael ei threialu ar hyn o bryd a dylai fod ar waith ledled Cymru erbyn Ebrill 2004.


tudalen nesaf: Cysylltu â ni

brig y dudalen